About Us

Amdanon ni – About us

Helo, Alan a Janette ydyn ni. Rydym yn briod gyda thri o blant sy bellach wedi tyfu a hefan y nyth. Rydym yn lwcus iawn i gael pedwar o wyrion sy’n byw’n agos. Roedd tadcu a mamgu Janette yn byw ac yn gweithio ar y fferm. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r ffermdy.

Hello we are Alan and Janette. We are married with three grown up children and four grandchildren who live close by. Janette’s grandparents lived and worked at the farm. We live next door and look forward to welcoming you to the farmhouse.

Adeiladwyd Ffyllon fawr tua 1900 ac mae wedi’i adnewyddu a’i foderneiddio gan ddangos parch at yr adeilad gwreiddiol. Mae’n wynebu’r de ac yn sefyll ar ben clos y fferm lle mae’r hen feudai wedi’u troi’n fythynnod bach.

Ffyllon Fawr is a south facing farmhouse built in approx 1900 and has been sympathetically renovated and modernised. The farmhouse is in an elevated position and overlooks the farmyard where the old stone cowsheds have been converted into two small cottages.

Mae’r ffermdy mewn lleoliad tawel oddi ar brif ffordd yr arfordir, 2 filltir i’r de o dre brydferth Aberaeron. Mae wedi’i leoli hanner ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberteifi – y ddwy dre tua 20 milltir i ffwrdd.

The farmhouse enjoys a peaceful setting just off the coastal road, 2 miles south of the charming harbour town of Aberaeron, and perfectly located between Aberystwyth and Cardigan, both around 20 miles away.

Gellir ymuno a llwybr yr arfordir uwchben traeth Gilfach yr Halen. Cilfach garregog sydd yma sy llai na 2 filltir i ffwrdd. Lleoliad cyfleus ar gyfer mynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir.

The beautiful Cardigan Bay Coastal Path can be accessed at Gilfach yr Halen, a quiet pebbly cove less than 2 miles from the farmhouse – ideal for scenic coastal walks.

Er ei fod mewn lleoliad tawel, mae pentrefi Llwyncelyn a Ffos-y-Ffin o fewn cerdded. Mae gorsaf betrol, siopau bach a swyddfa bost fach yma ar gyfer eich anghenion bob dydd. Mae dau dafarn hefyd o fewn milltir ac mae’r ddau yn gweini bwyd blasus ac yn cynnig mannau clud i ymlacio ar ol diwrnod llawn antur yn crwydro cefn gwlad.

Despite its tranquil setting, the villages of Llwyncelyn and Ffos-y-ffin are only a short walk away. Here you’ll find a petrol station, convenience shops and a small post office for everyday essentials. There are also two welcoming pubs within a mile, both serving delicious food and offering a cosy place to relax after a day exploring the surrounding countryside.

Dyma rai hen luniau o Ffyllon Fawr. Janette yw’r ferch gwallt cyrliog! Yn y llun cyntaf (tua 1959) mae hi gyda’i mam a’i mamgu. Ei thadcu, mamgu a’i chwaer fach sy yn y trydydd llun gyda’r llo bach.

Take a look at some photos from Ffyllon Fawr’s past. Janette is the little girl with curly hair! She’s with her mother and grandmother in the first photo (around 1959). Her grandparents and her sister are in the third photo along with a young calf.